Catalog Cyfan [221 llyfr]

  Tudalen nesaf Tudalen olaf

Manylion  1- 10 o 221

llun clawr Addewid y Penbwl Addewid y Penbwl gan Jeanne Willis
Chwedl chwerw-felys am greulondeb byd natur ac am dorcalon yn sgîl anallu penbwl i gadw ei addewidion i’r siani flewog, i blant 5-7 oed.
Clawr Caled
llun clawr Ail Di-ail Ail Di-ail gan Michael Coleman
Stori fywiog am dîm pêl-droed bechgyn a merched clwb ieuenctid yr eglwys leol, ac am un chwaraewr anobeithiol sy’n ceisio gwella ei sgiliau pêl-droed er mwyn dal sylw un ferch arbennig.
Clawr Meddal
llun clawr Ail Drannoeth Ail Drannoeth gan John Gwilym Jones
Cyfrol o fyfyrdodau treiddgar gan weinidog a ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol a chrefyddol cyfoes Cymru a baratowyd ar gyfer rhaglenni radio a gwasanaethau crefyddol dros gyfnod o ddeugain mlynedd.
Clawr Caled
llun clawr Alun yn Dysgu'r ABC Alun yn Dysgu'r ABC gan Lin Jenkins
Llyfr ABC lliwgar a bywiog a fydd yn denu’r plant ifainc, gydag Alun yr aderyn direidus yn gwneud rhywbeth gwahanol gyda phob llythyren. Dyma ffordd hwyliog o ddysgu llythrennau’r wyddor.
Clawr Meddal
llun clawr Am Unwaith Am Unwaith gan Paul Stewart
Stori dyner arall yn portreadu cyfeillgarwch arbennig Cwningen a Draenog yn dilyn trychineb pan gaiff cartref tanddaearol Cwningen ei foddi gan law trwm.
Clawr Caled
llun clawr Am Wyneb! Am Wyneb! gan Dylan Williams ac eraill

Rhif 12 mewn cyfres o 12. Stori ddoniol i blant bach am fethiant Jac Do i dwyllo ei ffrindiau wrth wisgo i fyny, ac am yr hwyl a gaiff ef a’i ffrindiau pan ddaw Sali Mali i’w cynorthwyo i greu masgiau, yn cynnwys lluniau lliw o gyfres deledu animeiddiedig S4C.
Clawr Meddal
llun clawr Amser Gwely Popi a Macs Amser Gwely Popi a Macs gan Lindsey Gardiner
Llyfr bywiog arall i blant bach am Popi a’i chyfaill Macs y ci yn dysgu cyfrif i ddeg wrth baratoi i fynd i’r gwely. Dilyniant i Dyma Nhw Popi a Macs a Pan Fydd Popi a Macs yn Fawr.
Clawr Caled
llun clawr Amser i Dduw Amser i Dduw gan Elfed ap Nefydd Roberts
Trysorfa gyfoethog o weddïau hen a newydd ar gyfer pob math o achlysuron ac amgylchiadau yn y flwyddyn eglwysig Gristnogol, at ddefnydd cyhoeddus ac ar gyfer defosiwn personol, wedi eu casglu gan gyn weinidog a chyn Brifathro’r Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth.
Clawr Caled
llun clawr Amser i Dduw Amser i Dduw gan Elfed ap Nefydd Roberts
Trysorfa gyfoethog o weddïau hen a newydd ar gyfer pob math o achlysuron ac amgylchiadau yn y flwyddyn eglwysig Gristnogol, at ddefnydd cyhoeddus ac ar gyfer defosiwn personol, wedi eu casglu gan gyn weinidog a chyn Brifathro’r Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth.
Clawr Caled heb siaced lwch
llun clawr Annwyd y Pry Bach Tew Annwyd y Pry Bach Tew gan Mary Vaughan Jones
Argraffiad newydd o lyfr darllen cyntaf i’r plant lleiaf yn cyflwyno stori annwyl am ffrindiau’r Pry Bach Tew yn gofalu amdano ar ôl iddo ddal annwyd.
Clawr Meddal

 

  Tudalen nesaf Tudalen olaf

Manylion  1- 10 o 221

Llyfrau diweddaraf


Sali Mali a Ci Bach Neb
T Eirug Davies: Portread mewn Llun a Gair
Bownsio
Y Bensel
Bisgedi Cŵn

  gwefan gan keith morris/redsnapper www.red-snapper-web.co.uk keith@artx.co.uk