Llyfrau Newydd [27 llyfr]

llun clawr Sali Mali a Ci Bach Neb Sali Mali a Ci Bach Neb gan Dylan  Williams

AR GAEL YN CHWEFROR 2009. Llyfr bwrdd ‘cyffwrdd a theimlo’ dwyieithog, gwreiddiol yn cynnig cyfle i blant bach feithrin sgiliau synnwyr ac iaith wrth gyffwrdd y deunyddiau – sidan, cnu dafad, plu cyw bach, croen buwch, trwyn mochyn a blew ci – ac wrth fwynhau stori am Jac y Jwc yn chwarae tric ar Sali Mali.
llun clawr T Eirug Davies: Portread mewn Llun a Gair T Eirug Davies: Portread mewn Llun a Gair gan Alun Eirug  Davies

Portread mewn llun a gair o'r Parch T Eirug Davies (1892–1951) yn cynnwys rhagair gan ei fab sy'n cynnig cipolwg ar fywyd y gwrthrych gan dalu sylw arbennig i'w syniadau a'i argyhoeddiadau yng ngoleuni digwyddiadau ei gyfnod. Prif sylwedd y testun yw casgliad o 377 o ddelweddau gyda nodiadau eglurhaol.
llun clawr Bownsio Bownsio gan Emily  Huws

Stori rymus gan awdures arobryn yn sôn am ferch yn ei harddegau cynnar sy’n darganfod nad yw ei mam yn farw wedi’r cyfan. Nofel sy'n ymdrin â gobeithion preifat a realiti bywyd go-iawn, i ddarllenwyr 9-12 oed.
llun clawr Y Bensel Y Bensel gan Allan  Ahlberg

Addasiad Cymraeg o stori gref am bensel sy’n tynnu lluniau ond, wedi derbyn cwynion am gamgymeriadau yn y lluniau mae’n tynnu llun rwber sy’n rhwbio’r pethau da yn ogystal â’r camgymeriadau allan! A oes modd rhwystro’r rwber rhag difetha pob dim?
llun clawr Bisgedi Cŵn Bisgedi Cŵn gan Helen  Cooper

Addasiad o lyfr stori a llun dychmygus gyda lluniau byrlymus gan awdures boblogaidd am ferch fach sy’n dychmygu sut beth fuasai bod yn gi, wedi iddi fentro bwyta bisgedi cŵn, i blant 4-6 oed.
llun clawr Wyddwn i mo hynna am Gymru Wyddwn i mo hynna am Gymru gan Sian  Northey

Addasiad Cymraeg o drysorfa sy’n berwi o ffeithiau am Gymru ac am y Cymry, gyda’r hen dair sir ar ddeg yn rhannu nifer o’u cyfrinachau, eu llefydd cêl a’u rhyfeddodau, eu mawrion a’u chwedlau gan ddatgelu ambell ddanteithyn newydd ac annisgwyl.
llun clawr Ble Mae Sali Mali? Ble Mae Sali Mali? gan Dylan  Williams

Llyfr codi llabed dwyieithog lliwgar yn dilyn Jac y Jwc lletchwith wrth iddo chwarae cuddio gyda Sali Mali. Bydd plant bach wrth eu boddau yn dyfalu lle mae Sali Mali yn cuddio, a bydd digon o gyfle i fysedd prysur godi llabedi, i blant 0-5 oed.
llun clawr Rhag Ofn Ysbrydion Rhag Ofn Ysbrydion gan J Towyn  Jones

Astudiaeth o dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth llygad-dystion am ymweliadau honedig gan ysbrydion yn Nyfed yn bennaf gan awdur a gyfunodd ei ddyletswyddau yn weinidog yr Efengyl gydag ymchwil brwd i gefndir straeon ysbryd.
llun clawr Y Ddraig Aur Y Ddraig Aur gan Rhian Pierce  Jones

AR GAEL YN CHWEFROR 2009. Trydedd stori am Fflur a Gruff yn ceisio canfod atebion i ddirgelwch y mynd a’r dod cyfrinachol yn nrws cefn siop têc-awê newydd a agorwyd ym mhentref Rhos-gam, ac i’r gwrthdaro teuluol rhwng busnes Sglods Blods a’r caffi newydd. Dilyniant i Y Cwch a’r Torrwr Tatws a Y Cathod Coll.
llun clawr Basged Siopa Sali Mali Basged Siopa Sali Mali gan Dylan  Williams

Llyfr dwyieithog cyntaf Sali Mali. Llyfr bwrdd llun a stori dwyieithog lliwgar ar siâp basged gyda dolen ddeniadol ar gyfer dwylo bychain yn cyflwyno geiriau i’r plant lleiaf wrth iddynt ddilyn Sali Mali ar daith siopa i bedair siop wahanol. Bydd darllenwyr wrth eu bodd yn dyfalu pam mae Sali Mali’n prynu’r holl nwyddau ynghyd â chwilio am Jac Do sy’n cuddio ar bob tudalen, i blant 0–5 oed.

 

xxxxxxxxxxxxx
  gwefan gan keith morris/redsnapper www.red-snapper-web.co.uk keith@artx.co.uk